NASA I Ddefnyddio Kinect?
Mae Microsoft wedi creu camera gwych gyda'r Kinect.
Yn arferol defnyddir ar gyfer yr Xbox 360, mae'r Kinect yn gadael i ti ddod yn rheolwr. O fewn ychydig oriau o'i ryddhad, cafodd ei hacio gan raglennydd Linux Hector Martin, a byd o bosibiliadau gydag ef.
Un o'r nodweddion gorau feddyliais i amdano oedd y ffaith gallai rendro delweddau 3D ar dy gyfrifiadur, heb sôn am bethau eraill epig sydd gan y Kinect i gynnig.
Ond, mae'n ymddangos fel bod rhywbeth arall sydd yn gwneud y Kinect yn rhywbeth arbennig yn y byd. Ac ar gyfer hyn, fy ffrindiau, mae'n rhaid mynd at yr Orsaf Ofod Rhyngwladol.
Pam? Wel, mae'r synwyryddion sydd wedi'u hadeiladu i mewn i'r camera efo'r gallu i gyfrifo ei bwysau mewn disgyrchiant (gravity) sero, sydd yn golygu bod gofodwyr cyn hir yn gallu cadw'n heini wrth deithio.
A dyma ble dwi'n ychwanegu gif "omg" fel petai hwn yn Tumblr.
Gwers gwyddoniaeth sydyn bobl. Mae pob taith i fyny yn y gofod yn canlyn mewn pawb sydd yn cymryd rhan yn colli hyd at 15 y cant o'u mas corf. Pam? Am nad ydynt yn defnyddio eu cyhyrau llawer. I atal hyn, mae'r criw yn treulio dwy awr y dydd yn ymarfer corf i fyny yn yr Orsaf Ofod Rhyngwladol.
Mae'n eithaf anodd pwyso'r gofodwyr i fyny yn yr orbit, gan nad ydy cloriannau traddodiadol yn gweithio.
Datrwyd y broblem yn rhannol gan William Thornton, gofodwr Americanaidd a doctor, yn 1965 drwy ddefnyddio sbrings sy'n siglo. Mae dyfais debyg yn cael ei ddefnyddio heddiw, ond y broblem yw fod llawer o egni ei angen i bweru’r stôl symudol.
Gallai syniad John Charles, prif wyddonydd rhaglen ymchwil dynol NASA yn Houston, Texas, o gyfuno'r syniad o Kinect gyda'r sustem gyfoes o bwyso, fod yn un da, gan fod y Kinect yn mesur cyfaint corff tra mae'r stôl yn mesur mas.
Daeth y syniad o Carmelo Velardo, gwyddonydd cyfrifiaduron yn Eurecom yn Alpes-Maritimes, Ffrainc. Gyda chymorth cyd-weithwyr yng Nghanolfan Roboteg Ofodol Ddynol y Sefydliad Technoleg Eidaleg yn Torino, defnyddiodd Velardo y Kinect i greu delweddau 3D o'r gofodwr. Yna gwnaethom ychydig o waith mathemategol hyfryd, oedd wedyn yn golygu fod Velardo yn gallu amcangyfrif fod y canlyniadau yn 97 y cant yn gywir, gyda gwall cyfartalog o ddim ond 2.7 cilogram.
Oherwydd y costau uchel o lansio offer newydd, nid yw'r system newydd wedi cael ei arbrofi eto yn y gofod, er mae Velardo yn gobeithio cynnal arbrofion ar awyren barabolig sydd yn efelychu'r disgyrchiant-micro sydd mewn orbit. Bydd yn cyflwyno'r ymchwil yng nghynhadledd ESPA (Emerging Signal Processing Applications) yn Las Vegas, Nevada, mis nesaf.
Plîs dyweda wrthyf nad fi ydy'r unig un sydd yn meddwl fod hyn yn ddiddorol?
DELWEDD: flickr in space gan darkmatter







