Cegin Eddie: Cwpanau Cwstard Siocled Bach
Iawn fechgyn a merched, roedd rhai ohonoch yn gofyn i mi am fathau o fwyd parti a dyma un sydd yn flasus iawn ac yn ffafriol iawn.
Beth fydd ei angen?
- 2 lwy fwrdd o bowdr coco (nid powdr siocled poeth)
- 2 lwy fwrdd o bowdr Horlicks (neu ddiod brag arall)
- 2 lwy fwrdd o bowdr Ovaltine
- 2 lwy fwrdd o flawd corn
- 2 lwy fwrdd siwgr gronynnog
- 1 peint o lefrith
- Hufen dwbl trwchus iawn ( i garnisio)
- Powdr coco (fel addurniad)
- 1 sosban
- 1 chwisg
- 12 gwydr shot
Dull
- Mewn bowlen gymysgu fach ychwanega'r holl gynhwysion sych a chwisgo’n drylwyr
- Yn araf, ychwanega'r llefrith, gan chwisgo yn barhaol
- Yna arllwys y cymysgedd i'r sosban
- Gosod ar y gwres a chwisgo yn araf nes bydd y cymysgedd wedi cyrraedd berwi
- Mudferwa nes bydd y cymysgedd yn dechrau twchu
- Unwaith mae'r cymysgedd wedi cyrraedd trwch cwstard tew, llwyo'r cymysgedd i'r gwydrau shot
Os wyt ti'n cyflwyno'n boeth, rho dalp bach o hufen dwbl trwchus iawn arno ac ysgwyd ychydig o'r powdr coco drosto cyn gwneud.
Os wyt ti'n cyflwyno'n oer, gosod yn yr oergell a'i adael i oeri, gosod talp bach o hufen ar y top ac ysgwyd ychydig o bowdr coco drosto cyn cyflwyno
Awgrymiadau'r Cogydd
Os wyt ti eisiau sbeisio pethau i fyny ychydig a'i wneud yn ychydig mwy cyffrous yna ychwanega cwpl o ddiferion o gyflasyn (flavouring) oren neu fint i'r cymysgedd wrth iddo gynhesu drwodd.
Mwynha!
Clicia yma i weld holl ryseitiau Eddie.
Newyddion – Bwyd a Diod
Gwybodaeth – Bwyd
Gwybodaeth – Maetheg
DELWEDD: ;-) SHAGGY







